Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA

 

Teitl:  Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (SI 2007/1073) sy'n darparu ar gyfer cynllun digolledu i ddiffoddwyr tân a dibynyddion diffoddwyr tân yng Nghymru ("y Cynllun Digolledu"). Mae’r diwygiadau i’r Cynllun Digolledu a nodir yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn yn ganlyniadol ar ddwyn i rym Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 a nodir yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (SI 2015/622) ar gyfer diffoddwyr tân a gyflogir gan awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

 

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (SI 2007/1072) sy’n nodi Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) ("Cynllun 2007").

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Mae adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, fel y'i mewnosoder gan baragraff 3 o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (sy'n nodi'r rheol bod offerynnau statudol yn dod i rym o leiaf 21 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu gosod) yn cael ei dorri wrth gyflwyno'r offeryn statudol uchod.

 

Mewn llythyr dyddiedig 31 Mawrth 2015 at Lywydd y Cynulliad, roedd ymateb Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

 

"...mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud rheoliadau yn sefydlu

Cynllun Pensiwn newydd ar gyfer diffoddwyr tân, o 1 Ebrill eleni. Mae'r Cynllun hwn yn wahanol mewn dau faes pwysig i’r un sydd i'w sefydlu yn Lloegr. Fodd bynnag, nid yw'r Rheoliadau y cyfeirir atynt yn yr ohebiaeth hon, sy'n ymdrin â throsglwyddo aelodau presennol y cynllun sydd heb eu gwarchod i Gynllun newydd ar gyfer 2015, yn dibynnu o gwbl ar drefn y Cynllun newydd hwnnw.

At hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn ymdrin yn helaeth â thelerau Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992, sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cyn datganoli, ac nid oes llawer o bolisïau nac arbenigedd gyfreithiol yn bodoli yn ei gylch y tu allan i Lywodraeth y DU.

 

Felly, mae fersiynau terfynol yr Offerynnau a wnaed yn Lloegr wedi cael eu dyblygu, a'r unig ddiwygiadau a wnaed yng Nghymru oedd darparu testun Cymraeg, i adlewyrchu fformat OS Cymru ac i ddarparu ar gyfer proses ddrafftio sy'n niwtral o ran cenedl. Mae hyn wedi arwain at oedi mawr wrth gyflwyno'r rheoliadau gan nad oedd y rheoliadau Saesneg terfynol ar gael i Lywodraeth Cymru tan 6 Mawrth 2015. Er mwyn i'r rhain ddod i rym erbyn 1 Ebrill 2015 mae angen i ni dorri'r rheol 21 diwrnod. Pe bai’r Gorchmynion yn dod i rym ar ddyddiad hwyrach na 1 Ebrill 2015, o dan Adran 18(1) o Ddeddf 2013 byddai hyn yn golygu bod holl aelodau'r cynllun yn peidio â chronni buddiannau pensiwn yn yr hen Gynlluniau. Byddai hyn yn golygu bod angen i aelodau gael eu cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn newydd erbyn y diwrnod canlynol - gan gynnwys y rheini sydd â hawliau wedi'u hamddiffyn er mwyn aros yn eu Cynllun presennol."

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Ebrill 2015